jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

gan E. Wyn James

Un peth pwysig i’w gofio am Ann Griffiths yw iddi dderbyn rhywfaint o hyfforddiant barddol. Perthynai ei thad, Siôn Ifan Thomas, i nythaid o feirdd gwlad, ac y mae ambell ‘englyn’ o’i waith wedi goroesi. Yn eu plith y mae un a gyfansoddodd wrth weld dyn tlawd o’r enw Ifan Davies yn ceisio codi caban yn ymyl Melindwr, nid nepell o Ddolwar Fach:

Diofal yw gweled Ifan
C’yd yn codi ei gaban;
Mae rhai’n gomedd ’r hen gwman; – mae’r gair
Yn wir fod y gŵr yn wan.

Yn ôl tystiolaeth hen wraig a arferai gydchwarae ag Ann Griffiths pan oeddynt yn blant, atebodd Ann ei thad â’r englyn hwn:

Os gwan ac egwan yw’r gŵr,
Heb feddu fawr gryfdwr,
Gwnewch ’deilad sad yn siŵr – i dda deulu,
A rhowch Dduw ’n dalwr.

Y canlyniad fu i Siôn Ifan Thomas fynd ati ar ei draul ei hun i gynorthwyo Ifan Davies i godi ei gaban. Yn ôl yr hen wraig a gofiai’r achlysur a’r englynion, yr oedd Ann ar y pryd tua deng mlwydd oed.
     Cofnodwyd yr englynion yn eu ffurf uchod (yn 1863 neu 1864, yn ôl pob tebyg) gan berthynas i Ann Griffiths – John Jones, Y. H., Llanfyllin – mewn llyfr nodiadau a gedwir bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 1071A). Maent yn ymdebygu o ran ffurf i’r ‘englyn unodl crwca’, sef mesur ac ynddo’r un elfennau â’r ‘englyn unodl union’ ond fod yr esgyll a’r paladr wedi’u trawsosod. Fodd bynnag, erbyn iddynt gael eu cyhoeddi am y tro cyntaf, yng nghyfrol Morris Davies, Cofiant Ann Griffiths (1865) – cyfrol y bu John Jones yn cynorthwyo Morris Davies i’w pharatoi – yr oedd yr englynion wedi troi yn rhai unodl union. Dyma eu ffurf yn y gyfrol honno:

Ai diofal gweled Ifan – yna c’yd
Yn codi ei gaban?
Mae rhai yn gomedd yr hen gwman,
A’r gair yn wir fod y gŵr yn wan.

Os gwan ac egwan yw’r gŵr – heb feddu
Fawr foddion o gryfdwr,
Gwnewch adeilad sad yn siŵr,
I dda deulu – rhowch Dduw yn dalwr!

     Er nad campweithiau mo’r englynion yn y naill ffurf na’r llall, dengys yr hanesyn nad peth dieithr mo barddoni i Ann Griffiths o gyfnod cynnar yn ei hanes; a diddorol yw gweld ambell linell o gynghanedd yn brigo i’r golwg yma ac acw yn ei hemynau yn ddiweddarach – yn waddol, megis, o’i hyfforddiant cynnar.